Hanes y Brid


Datblygwyd defaid Llanwenog yn nyffryn Teifi yng ngorllewin Cymru ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf drwy ddefnyddio hyrddod Shropshire ar y defaid lleol. Fe'u ceir yn draddodiadol ar ffermydd teuluol oherwydd eu natur llonydd a'u parodrwydd i addasu o fewn systemau ffermio cymysg

Daeth y brid i amlygrwydd yn y 1960au ac yn dilyn llwyddiant yn y Cystadleuthau Wyna Cenedlaethol. Enillwyd Gwobr Goffa Thomas ar chwe achlysur gyda chyfartaledd canran wyna o 215%. Mae canran dros 180% yn gyffredin a gellir gwella ymhellach ar hyn drwy ganolbwyntio bridio o'r teuluoedd mwyaf epilgar. Bu aelodau o rai o'r teuluoedd yma yn gyfrifol am sefydlu a datblygu brid Caergrawnt (Cambridge).

Mae'r brid oherwydd eu epilgaredd a'u gallu i berfformio am flynyddoedd yn medru cyrnharu'n ffafrlol a bridiau eraill. Mae praidd hunan-gynhaliol yn medru cadw clefydau dan well rheolaeth na system lIe prynir defaid i mewn. Mae'r brid yn nodedig am dreulio eu dannedd yn hytrach na'u colli.

Defaid tua 55 kgs.
Hyrddod tua 90 kgs.
Mae epilgaredd a maint canolog y brid yn golygu y gellir cad':V mwy o stoc i'r hectar sy'n golygu mwy o gynnyrch ac elw.

Cyfrif Bradford 56-58
Pwysau Cnu 2.5 kgs.
Hyd y Gwlan 7.5 cms.
Fe ddatblygodd y brid mewn ardal a oedd yn frith of ffatrioedd gwlan a chanmolir y gwlan sy'n addas at nyddu.

Cynhelir arwerthiant bob mis Awst Llanybydder.

 

Henson runner up llanwenog
[Home] [The Society] [Hanes y brid] [Qualities] [Conformation] [Why Llanwenogs] [Origins] [Ram reg] [Results] [Newsletter  July 2008] [Photo Comp.] [Sales] [Catalogue]